Archwiliwch
Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru, y mae Chwarae Cymru yn aelod ohono, wedi cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru. wedi cyhoeddi ei adroddiad Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru diweddaraf. Mae’r adroddiad yn cynnig safbwynt arall i rai llywodraeth y DU a Chymru ar hawliau plant, fel y’i diffinnir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Mae’r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad blaenoriaeth ar faterion sy’n effeithio ar hawliau plant. Mae’r materion yn cynnwys tlodi, diogelu, iechyd meddwl ac emosiynol, a chefnogi plant sydd wedi cael profiad o ofal. Mae hefyd yn argymhell amddiffyn hawl plant i chwarae o fewn amser ysgol, a defnyddio mannau awyr agored ysgolion ar gyfer chwarae ar ôl ysgol.
Mae’r adroddiad yn cynnig diweddariad am y blaenoriaethau allweddol a nodwyd yn adroddiad blaenorol y grŵp a gyflwynwyd i’r Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ym mis Rhagfyr 2020. Mae’r adroddiad diweddaraf yn tynnu sylw at ddatblygiadau newydd sy’n effeithio ar hawliau plant megis yr argyfwng costau byw a COVID-19.
Mae’r ddau adroddiad wedi’u llywio gan alwad eang am dystiolaeth ysgrifenedig, digwyddiadau bord gron a dadansoddiad o ffynonellau eilradd a hwyluswyd gan Plant yng Nghymru.