Archwiliwch
Mae cangen newydd IPA Cymru Wales o’r International Play Association yn cynnig bwrsariaethau i gefnogi aelodau i fynychu Cynhadledd Fyd-eang yr IPA eleni.
Mae IPA Scotland – mewn partneriaeth â Play Scotland, Early Years Scotland, Inspiring Scotland ac IPA World – yn cynnal 22ain Cynhadledd Fyd-eang Teirblynyddol yr IPA yng Nglasgow, o’r 6 i’r 9 Mehefin 2023.
I gefnogi pobl i fynychu’r gynhadledd hon, rydym wedi creu Cronfa Bwrsariaeth i gynorthwyo aelodau IPA Cymru Wales gyda chost mynychu’r gynhadledd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tocyn am ddim i fynychu’r gynhadledd lawn. Bydd unigolion yn gyfrifol am dalu eu costau teithio, llety, bwyd a hamdden eu hunain. Cofiwch ymgeisio dim ond wedi ichi ystyried os allwch chi fynychu ar yr amod hon.
Mae rhaid i ymgeiswyr fod yn aelodau unigol o IPA Cymru Wales i allu ymgeisio. Ni all IPA Cymru Wales warantu y bydd pob cais yn llwyddiannus.
Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 30 Mawrth 2023.
I ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch IPA Cymru Wales
Dysgwch fwy am ymuno ag IPA Cymru Wales