Cym | Eng

Newyddion

Creu mannau chwarae hygyrch – pecyn cymorth newydd

Date

22.04.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Gan fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £5 miliwn i wella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae yn ystod 2025-26, rydym wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd – Creu mannau chwarae hygyrch – i helpu awdurdodau lleol a phartneriaid.

Bwriad y pecyn cymorth yw cefnogi datblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch a chynhwysol yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae wedi’i anelu at awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, cynllunwyr mannau agored, cymdeithasau tai a rheolwyr parciau a meysydd chwarae.

Mae’r pecyn cymorth wedi ei ddylunio i ddarparu gwybodaeth eglur a chryno a fydd yn:

  • helpu i greu mannau chwarae sy’n galluogi pob plentyn i chwarae ynddynt, ynghyd â’u ffrindiau a’u teuluoedd
  • cynorthwyo pobl i ddeall a datrys materion o bryder
  • darparu templedi ac offer cam wrth gam, ymarferol ar gyfer cyflawni gwaith sy’n gysylltiedig â chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu plant anabl a’u teuluoedd wrth geisio cael mynediad i fannau chwarae.

Mae’r pecyn cymorth diwygiedig hwn yn ymateb i Cynnwys Plant Anabl mewn Darpariaeth Chwarae, datganiad ar y cyd gan y Children’s Play Policy Forum a’r UK Play Safety Forum.

Datblygwyd argraffiad blaenorol y pecyn cymorth gan Chwarae Cymru ac Alison John and Associates. Cyflwynodd grŵp ffocws bychan o rieni, rheolwyr ardaloedd chwarae awdurdodau lleol, swyddogion datblygu chwarae a chynrychiolwyr o fudiadau plant gyngor ar gynnwys y pecyn cymorth gwreiddiol.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors