Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobl ar gynigion i ddiwygio dyddiadau tymhorau ysgol. Bydd hyn yn golygu y bydd tymhorau mewn ysgolion a gynhelir (y rhai a ariennir yn bennaf gan awdurdodau lleol) yng Nghymru yn fwy cyfartal o ran hyd, gyda’r gwyliau wedi’u dosbarthu’n fwy cyfartal.
Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar gael barn am dri mater:
- yr egwyddor o addasu’r flwyddyn ysgol
- opsiynau ar gyfer gweithredu newidiadau i’r flwyddyn ysgol gan gynnwys gwneud newidiadau yn y flwyddyn ysgol 2025 i 2026
- dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026.
Mae’r opsiynau yn cynnwys cynyddu gwyliau’r hydref i bythefnos a lleihau gwyliau’r haf i bum wythnos. Mae’r newidiadau hefyd yn cynnwys symud gwyliau’r gwanwyn i ffwrdd o’r Pasg er mwyn helpu i wneud y tymhorau’n fwy cyfartal o ran hyd.
Mae’r cynigion yn rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb drwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar ddysgwyr. Nod y newidiadau yw bod o fudd i ddysgwyr, staff a rhieni.
Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 12 Chwefror 2024.