Archwiliwch
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru newydd, Derek Walker, yn ymgynghori ar ba feysydd gwaith y dylai’r Comisiynydd ganolbwyntio arnynt rhwng 2023 a 2030.
Mae arolwg Ffocws Ein Dyfodol yn rhan o amrywiaeth o ffyrdd y mae’r Comisiynydd yn casglu gwybodaeth gan unigolion a sefydliadau. Bydd y gwaith yn sefydlu blaenoriaethau ar gyfer tîm y Comisiynydd ac yn llywio sut maent yn gweithio yn y dyfodol.
Mae’r gwaith casglu a dadansoddi gwybodaeth yn ddechrau proses barhaus o gyfranogiad yn arwain at Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol (2025) nesaf. Bydd canlyniadau dadansoddiad yr arolwg yn cael eu rhannu yn nes ymlaen yn 2023.
Dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg: 3 Gorffennaf 2023.