Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn pobl ar sut y dylid defnyddio arian sydd heb ei hawlio, a elwir yn asedau segur, i wella bywydau pobl Cymru.
Mae’r ymgynghoriad yn galw am adborth ar opsiynau ar gyfer dibenion gwariant yn y dyfodol, gan gynnwys cefnogi plant a phobl ifanc. Mae Adran 3.4 o’r ymgynghoriad yn trafod yr opsiwn o ddefnyddio arian i fynd i’r afael â rhwystrau i weithgareddau chwarae a hamdden plant.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn i ba raddau y mae ymatebwyr yn credu y dylid defnyddio arian i gefnogi plant. Mae hefyd yn gofyn a oes unrhyw faterion penodol sy’n bwysig i’r arian fynd i’r afael â hwy.
Dyddiad cau i ymateb: 28 Chwefror 2024.