Archwiliwch
Mewn cydweithrediad â’r International Play Association (IPA), mae’r Child and Adolescent Health Research Group (CAHRG) o’r Research Centre for Health (ReaCH) ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian wedi cyhoeddi dau gasgliad o fyfyrdodau sy’n canolbwyntio ar chwarae. Mae cyhoeddiad y casgliadau’n cyd-fynd â 22ain cynhadledd teir-blynyddol yr IPA, a gynhelir yng Nglasgow ym mis Mehefin 2023.
Mae Priorities for Play: Towards 2030 and Beyond yn cynnwys 70 o gyfraniadau o bob rhan o’r byd yn cyfeirio at gwahanol feysydd blaenoriaeth ar gyfer chwarae. Mae’r casgliad yn cynnwys cyfraniad gan Ymddiriedolwr Chwarae Cymru, Dr Matluba Khan, ‘Making space WITH and FOR girls and young women’.
Mae’r cyfraniadau o Gymru hefyd yn cynnwys:
- ‘Working with the principle of play sufficiency’, Mike Barclay a Ben Tawil, Ludicology
- ‘Play in a hospital setting’, Karen Minton, Prifysgol Abertawe
- ‘2030 – Reclaiming play in Wales’, Siôn Edwards, Y Fenter
- ‘Play is for everyone at any time’, Michaela James, Prifysgol Abertawe
Mae Inspired Play Practitioners and Researchers yn cynnwys mwy na 50 o fyfyrdodau ar yr hyn sydd wedi ysbrydoli’r rhai sydd â diddordeb proffesiynol mewn chwarae.
Mae’r casgliad yn cynnwys cyfraniadau o Gymru:
- ‘From a play-friendly country’, Siôn Edwards, Y Fenter
- ‘Play: the child’s superpower’, Karen Minton, Prifysgol Abertawe