Cym | Eng

Newyddion

Cod Ymarfer Diogelu – Llywodraeth Cymru

Date

13.01.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threfniadau diogelu.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unigolion, grwpiau a mudiadau sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i ddilyn y cyngor yn y Cod Ymarfer Diogelu. Bydd hyn yn dangos bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch plant.

Mae’n bwysig bod pawb sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant (hyd at 18 oed) yn deall yr angen i gael trefniadau diogelu ar waith i sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu risg o niwed. Mae diogelu yn golygu cadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed a gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod plentyn yn wynebu risg o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio.

Mae’r Cod Ymarfer Diogelu hwn yn berthnasol i nifer o weithgareddau a gwasanaethau, gan gynnwys:

  • Sesiynau gofal plant a sesiynau chwarae a / neu glybiau ar ôl ysgol sy’n gweithredu am lai na dwy awr neu sydd wedi’u heithrio rhag cofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd am resymau eraill
  • Gweithgarwch chwarae agored, grwpiau neu sesiynau gweithgarwch / diddordeb
  • Gweithgarwch chwarae, grwpiau neu sesiynau gweithgarwch / diddordeb dan do
  • Clybiau ieuenctid.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors