Archwiliwch
Mae’n Ddiwrnod Chwarae heddiw – diwrnod i ddathlu chwarae ar draws y DU gyda phlant, teuluoedd a chymunedau’n dod at ei gilydd i fwynhau diwrnod o hwyl.
Eleni, mae thema’r ymgyrch – Chwarae yw’r Nod – yn pwysleisio pwysigrwydd darparu cyfleoedd chwrae ar gyfer bob plentyn. Mae chwarae’n digwydd ym mhobman, bob dydd, ac mae’n hawl i bob plentyn ac arddegwr.
- Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol plant ac arddegwyr.
- Mae chwarae yn caniatáu i blant ac arddegwyr wneud ffrindiau, datblygu perthnasau, a chael hwyl gyda’i gilydd.
- Mae chwarae yn galluogi plant ac arddegwyr i deimlo cysylltiad gyda’u cymunedau, gan arwain at gymunedau hapusach i bawb.
- Mae gan chwarae rôl bwysig wrth helpu plant ac arddegwyr i ymdopi gyda straen a phryder, delio gyda heriau, a gwneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd o’u hamgylch.
Rydym yn galw am fwy o chwarae, gwell chwarae, bob dydd! Mae Diwrnod Chwarae’n annog teuluoedd, cymunedau a sefydliadau i ystyried sut allan nhw greu gwell cyfleoedd i bob plentyn chwarae. Yn dilyn yr holl heriau y mae plant ac arddegwyr ledled y DU wedi eu hwynebu, mae chwarae’n bwysicach nag erioed.
Dywed Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:
‘Mae’n wych gweld digwyddiadau Diwrnod Chwarae, bach a mawr, yn dychwelyd ledled Cymru a gweddill y DU heddiw. Yn dilyn heriau’r ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, fel cymdeithas, mae angen inni gydnabod a gwerthfawrogi, fwy nag erioed, bod gan bob plentyn yr hawl i gael rhyddid i chwarae – nid ar Ddiwrnod Chwarae yn unig, ond bob dydd o’r flwyddyn.
Mae gan blant botensial di-ben-draw i fod yn llawn dychymyg ac i feddwl yn greadigol – dyma maen nhw’n ei wneud pan maen nhw’n chwarae. Mae’n amlwg i ni fod angen inni roi mwy o gyfleoedd i blant chwarae ym mhobman, bob dydd. Ymunwch â ni heddiw a thrwy’r gwyliau ysgol a thu hwnt i roi amser i blant chwarae. Y mwyaf o leisiau fydd yn galw gyda ni i gynnal hawl plant i chwarae, y cryfaf fydd ein neges.’