Archwiliwch
Rydym wedi cyhoeddi rhifyn newydd o Ffocws ar chwarae, sy’n cynnig gwybodaeth am bwysigrwydd chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae wedi’i anelu at y rhai sy’n cefnogi lles plant ac arddegwyr sy’n gleifion mewn ysbytai neu leoliadau cymunedol, fel hosbisau plant.
Mae’r papur briffio’n disgrifio pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd, lles a hapusrwydd plant ac yn amlinellu’r gyfraith rhyngwladol sy’n amddiffyn hawl plant i chwarae. Mae Ffocws ar chwarae – Chwarae mewn gofal iechyd yn esbonio sut y profwyd bod chwarae’n cael effaith gadarnhaol ar les plant ac arddegwyr mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd, a’u gallu i ymdopi gydag ofn, poen a thriniaeth.
Mae’r papur briffio hefyd yn disgrifio buddiannau economaidd darparu chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd, drwy ddeilliannau clinigol gwell a gwell defnydd o adnoddau meddygol. Mae’n tynnu sylw at ganllawiau gan amrywiaeth o ffynonellau sy’n cefnogi darparu chwarae er mwyn gwella profiadau cleifion.
Yn olaf, mae’r papur briffio’n rhoi ffocws ar gyflwr chwarae iechyd yng Nghymru. Mae’n gwneud argymhellion ar gyfer polisi gofal iechyd yng Nghymru mewn perthynas â gwella darpariaeth chwarae mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd.
Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i gymeradwyo gan Starlight Children’s Foundation.