Cym | Eng

Newyddion

Chwarae a hiwmor – adnoddau newydd i ysgolion

Date

08.11.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae cyfleoedd ar gyfer chwarae, chwerthin a hiwmor yn elfennau hanfodol ar gyfer plentyndod iach a hapus. Mae rhannu hiwmor yn gysylltiedig hefyd gyda datblygiad sgiliau pwysig eraill yn ystod plentyndod, yn cynnwys y ddawn i ddeall emosiynau a meddyliau pobl eraill ac i smalio chwarae.

Mewn gwaith ymchwil diweddar, darganfu seicolegwyr datblygiadol ym Mhrifysgol Caerdydd bod chwarae llawn hiwmor yn helpu plant i gysylltu gydag eraill a ffurfio perthnasau cadarnhaol, cynnes, er enghraifft gyda’u brodyr a’u chwiorydd a’u ffrindiau.

Rydym wedi gweithio gyda’r seicolegwyr datblygiadol sydd â diddordeb ym mhwysigrwydd hiwmor a chwerthin mewn chwarae plant i ddatblygu adnoddau ar gyfer ysgolion.

Mae’r adnoddau Gemau Giglo newydd yn anelu i roi mwy o gyfleoedd i athrawon a phlant rannu hiwmor a chwarae yn yr ystafell dosbarth. Mae’r adnoddau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) rhad ac am ddim, a’r gemau ystafell ddosbarth, ar gyfer plant ac athrawon ysgolion cynradd yn ne Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors