Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn plant a phobl ifanc o Adroddiad grŵp llywio yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.
Comisiynwyd Chwarae Cymru i gynhyrchu’r fersiwn yma, Adolygiad o chwarae yng Nghymru – Yr hyn mae’n ei olygu i blant a phobl ifanc.
Mae’n cynnig trosolwg o ba wahaniaeth y bydd gweithredu argymhellion yr adolygiad yn ei olygu i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae’r fersiwn hon, sydd ar ffurf weledol gryno, yn rhestru’r hyn ofynnodd plant a phobl ifanc amdano fel rhan o’r ymgynghoriad ac, mewn ymateb, yr hyn mae’r grŵp llywio’n gofyn i Lywodraeth Cymru ei wneud i wireddu hyn i gyd.
Cyhoeddwyd fersiwn lawn yr adroddiad ym mis Chwefror 2023 yn dilyn adolygiad tair blynedd o chwarae yng Nghymru. Bydd ymateb ffurfiol i’r adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2023.