Archwiliwch
Mae’r enwebiadau ar agor ar gyfer Children & Young People Now Awards eleni, sy’n cynnwys categori ar gyfer chwarae plant.
Bydd ‘The Play Award’ yn cael ei wobrwyo i’r fenter sydd wedi gwneud y mwyaf i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae yn rhydd, mwynhau eu plentyndod a chyfrannu at eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol. Bydd y beirniaid yn edrych am waith sydd wedi galluogi plant i ddilyn eu syniadau a diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain.
Mae’r categoriau eraill yn cynnwys:
- The Early Years Award
- Children and Young People’s Champion
- The Children and Young People’s Charity Award.
Mae’r gwobrau’n cynnig cyfle i godi proffil prosiectau a rhaglenni i gyllidwyr a’r cyhoedd. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ar 23 Tachwedd 2023.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 30 Mehefin 2023.