Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau diweddariad i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio (NMS).
Mae’r NMS wedi’u diweddaru yn cynnwys tri newid, fel y nodir yng Nghylchlythyr Llywodraeth Cymru 004/2023:
- estyn y cyfnod sydd ar gael i warchodwyr plant fodloni Safon 13.4 (GP) o ddiwedd Tachwedd 2023 i ddiwedd Tachwedd 2024.
- newid enw Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar i Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar
- eglurhad o’r sefyllfa sy’n ymwneud â’r hyfforddiant wyneb yn wyneb gorfodol sy’n ofynnol ar gyfer Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng.