Archwiliwch
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi canllawiau newydd i ddarparwyr ynglŷn â sut y gallant atal eu gwasanaeth am gyfnod byr, er enghraifft cymryd cyfnod mamolaeth, neu symud tŷ. Yn flaenorol, byddai darparwyr gwasanaethau gofal a chwarae plant yn canslo eu cofrestriad mewn amgylchiadau o’r fath ac yna’n mynd drwy’r broses o ailgofrestru.
Mae’r canllawiau yn egluro’r drefn ar gyfer atal gwasanaeth yn wirfoddol a’r hyn a ddisgwylir pan fydd y darparwr am ddileu’r ataliad a dechrau cynnig y gwasanaeth eto.