Archwiliwch
Mae ein canllawiau gwaith chwarae nawr ar gael mewn print – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, gallwch archebu copïau wedi’i hargraffu o’r canllawiau – tra pery’r cyflenwad! Mae’r canllawiau yn rhad ac am ddim, ac ar gael am dal postio bychan:
- Hyd at bedwar canllaw – £5.00
- Hyd at wyth canllaw – £7.50
Mae nifer cyfyngedig o’r canllawiau ar gael, felly er mwyn sicrhau tegwch gofynnwn i chi ond archebu un copi yr un neu un i’ch mudiad (ym mhob iaith) ac ond archebu’r cyfrolau fydd o ddefnydd i hysbysu eich gwaith a’ch dysg.
Crynodeb i’ch atgoffa am y canllawiau gwaith chwarae:
- Mae Plentyndod, chwarae a’r Egwyddorion Gwaith Chwarae (cyfrol 1) yn edrych ar rôl chwarae yn ystod plentyndod ac etheg gweithio mewn lleoliadau ble mae plant yn chwarae.
- Mae Ymarfer gwaith chwarae (cyfrol 2) yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n newydd i waith chwarae ac mae’n archwilio sut i ddynodi, creu neu gyfoethogi mannau ar gyfer chwarae.
- Mae Datblygu a rheoli prosiect gwaith chwarae (cyfrol 3) yn edrych ar elfennau ymarferol trosglwyddo darpariaeth gwaith chwarae ac mae’n archwilio dyletswyddau rheoli uwch-weithwyr chwarae.
- Mae Rheoli gweithwyr chwarae a gweithio gydag oedolion eraill (cyfrol 4) yn edrych ar reoli staff a gweithio gydag oedolion eraill yn ogystal â delio gyda gwrthdaro, beirniadaeth ac achwynion.
I archebu copïau wedi’i hargraffu, cwblhewch y ffurflen hon os gwelwch yn dda:
Dewiswch bob eitem yr hoffech ei archebu.