Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i hysbysu darparwyr gofal plant ar sut y gallant gefnogi plant a theuluoedd o Wcráin.
Anelir y cyngor at ddarparwyr gofal plant ac awdurdodau lleol, ac mae’n cynnwys atebion i gwestiynau fel:
- A gaf i groesawu pobl o Wcráin i fy nghartref a pharhau i ddarparu gofal plant cofrestredig?
- A oes unrhyw gymorth ariannol i helpu gyda gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?
- A fydd teuluoedd sy’n dod i’r DU yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant?