Cym | Eng

News

Ymgyrch yn dathlu hawl plant i chwarae yng Nghymru

Date

02.08.2023

Category

News

Archwiliwch

Mae digwyddiadau mewm amryw o ardaloedd yng Nghymru a gweddill y DU heddiw i nodi Diwrnod Chwarae, yr ymgyrch DU gyfan sy’n dathlu hawl plant i chwarae. Bydd miloedd o blant a’u teuluoedd yn mwynhau diwrnod o hwyl mewn digwyddiadau lleol a rhanbarthol – o Fae Colwyn i Gaerdydd ac o Lanharan i Wrecsam.

Eleni, mae thema’r ymgyrch – Chwarae am y nesaf peth i ddim – gwneud pob diwrnod yn antur – yn pwysleisio y gall plant fwynhau cyfleoedd chwarae o safon uchel ac sydd o fudd datblygiadol yn rhad neu yn rhad ac am ddim.

  • Mae chwarae’n hanfodol i bob oed ac ym mhob cyfnod o blentyndod, ac mae’n arbennig o bwysig yn ystod adegau o argyfwng.
  • Mae chwarae’n helpu plant a phobl ifanc i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, delio gyda heriau, a chynyddu gwytnwch.
  • Mae chwarae’n hwyl, mae’n galluogi plant a phobl ifanc i wneud ffrindiau, gollwng stêm, ac ymdopi gyda straen a phryder.
  • Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer iechyd, hapusrwydd, a datblygu sgiliau plant a phobl ifanc yn cynnwys creadigedd, dychymyg, a’u synnwyr o antur.

 

Rydym yn galw ar i bawb – rhieni, neiniau a theidiau, gofalwyr, darparwyr chwarae a gofal plant – ledled Cymru a gweddill y DU i helpu i wneud Diwrnod Chwarae, a phob dydd, yn antur!

Dywed Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:

‘Mae angen i ni roi mwy o gyfleoedd i blant chwarae – nid yn unig ar Ddiwrnod Chwarae, ond bob dydd o’r flwyddyn. Er ei bod yn ddealladwy bod rhieni’n aml yn teimlo dan bwysau i dalu am wyliau a rhoi pob cyfle i’w plant gael hwyl yr haf yma, mae angen i ni gofio bod rhoi cyfleoedd i blant chwarae ddim yn golygu nac yn gorfod cynnwys gêmau neu deganau drud. Yn aml, y rhyddid i archwilio gartref a phrofi anturiaethau bob dydd gyda theulu a ffrindiau sy’n cynnig y mwyaf o hwyl a hapusrwydd i blant. Ymunwch â ni heddiw a thrwy’r gwyliau a thu hwnt i roi rhyddid i blant chwarae.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors