Archwiliwch
Mae Prifysgol Abertawe yn chwilio am gyfranogwyr sy’n ymwneud â gwaith chwarae neu ymarfer gwaith chwarae i gymryd rhan mewn astudiaeth ar effaith covid-19 ar waith chwarae.
Nod yr astudiaeth yw darganfod a yw covid-19 wedi cael effaith barhaol ar waith chwarae. Mae’n cael ei arwain gan Dr Pete King, uwch ddarlithydd yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod.
Gofynnir i gyfranogwyr gymryd rhan mewn cyfweliadau lled-strwythuredig ar-lein trwy Zoom neu Teams a bydd yr holl ddata a gesglir yn ddienw ac yn gyfrinachol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, neu os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Dr Pete King.