Archwiliwch
Bob Hughes
Mae’r disgrifiad ‘cawr o ddyn’ yn un addas iawn i ddisgrifio Bob. Gellid dadlau iddo gyfrannu mwy at ddatblygiad y proffesiwn gwaith chwarae rhyngwladol fel yr ydym yn ei adnabod heddiw nag unrhyw un arall. Darparodd ei dacsonomi o fathau chwarae’r cyd-destun y mae gwaith chwarae wedi datblygu’n ei erbyn. ’Dyw hynny ddim yn golygu nad oedden ni’n weithwyr chwarae cyn i Bob ein diffinio, ond darparodd y tacsonomi’r fframwaith ar gyfer ein datblygiad a rhannu ein dealltwriaeth.
Roedd ei gyfraniad i chwarae yng Nghymru’n sylweddol hefyd. Fe gydweithiom gyntaf yn 1999 pan aeth Chwarae Cymru, oedd yn ei dyddiau cynnar, ati i gomisiynu Bob i arwain gweithgor oedd yn datblygu Yr Hawl Cyntaf… fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae. Roedd yn ennyd bwysig. Credwn mai dyma’r ymgais gyntaf i ddisgrifio’r hyn yr oeddem ni, fel proffesiwn, yn ei olygu wrth chwarae o ansawdd, ble roeddem yn canolbwyntio ar y broses yn hytrach nag ar y canlyniad. ’Doedd gennym yr un syniad beth fyddai’r derbyniad iddo, yn enwedig ein barn ar risg. Roedd hi’n adeg pan oedd yr hyn sydd bellach yn fodel hirsefydlog sy’n hysbysu cymaint o gymwysterau gwaith chwarae heddiw, yn ddim mwy na chasgliad o syniadau.
Yn 2001, pan gomisiynwyd Chwarae Cymru i ddrafftio polisi chwarae ar gyfer Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Bob ein cynorthwyo gyda’r sail academaidd oedd yn cefnogi ein rhesymeg. Dair blynedd yn hwyrach, fe weithiodd gyda Chwarae Cymru pan gawsom ein hariannu i arwain ar broses trwy’r DU arweiniodd at ddatblygu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae, sydd wedi eu mabwysiadu’n rhyngwladol ers hynny.
Trwy gydol y cyfnod hwn o drafod a darganfod bu Bob yn gyfaill beirniadol, cawsom ddadleuon trylwyr, a oedd yn brofiad gwerthfawr a goleuedig. Bydd tîm Chwarae Cymru’n gweld ei eisiau’n fawr, a hynny’n broffesiynol ac yn bersonol.
Mike a thîm Chwarae Cymru