Cym | Eng

Newyddion

Arolwg: Gobeithion i Gymru

Date

12.10.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, wedi lansio arolwg Cymru gyfan o blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw, rhieni a gofalwyr, i ddarganfod pa feysydd gwaith allweddol y dylai ganolbwyntio arnynt.

Bydd arolwg Gobeithion i Gymru yn llywio cynllun tair blynedd y Comisiynydd. Mae hyn yn golygu y bydd lleisiau plant a phobl ifanc yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y gwaith a wneir gan y Comisiynydd dros y blynyddoedd nesaf.

Mae sawl fersiwn o’r arolwg, wedi’u hanelu at ddiwallu anghenion gwahanol gyfranogwyr. Rhain yw:

  • plant 2 i 3 oed
  • plant 4 i 7 oed
  • plant 7 i 11 oed
  • pobl ifanc 12 i 18 oed (neu bobl ifanc hyd at 25 oed sy’n derbyn gofal)
  • addasiad hawdd ei ddarllen gyda symbolau/lluniau
  • disgyblion ag anableddau dysgu dwys a lluosog (PMLD)
  • plant a phobl ifanc b/Byddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • rhieni a gofalwyr
  • gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac ar eu cyfer.

Dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg: 11 Tachwedd 2022.

Ar ôl i’r arolwg gau, bydd ymatebion yn cael eu coladu a’u dadansoddi, a’u cyhoeddi yn gynnar yn 2023.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors