Cym | Eng

Newyddion

Ariannu Haf o Hwyl 2022

Date

31.03.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn darparu £7m o gyllid i gefnogi Haf o Hwyl yn 2022. Gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen y llynedd a Gaeaf Llawn Lles, bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gynnig gweithgareddau rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc 0 i 25 mlwydd oed ledled Cymru i gefnogi eu lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol.

Wrth gyhoeddi’r cyllid mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS:

‘Llwyddodd dros 67,000 i fwynhau amrywiol weithgareddau rhad ac am ddim, o dan do ac awyr agored, gan gynnwys cerddoriaeth, theatr, chwaraeon morol, dringo a weiren wib, gan ddarparu cyfleoedd cynhwysol i gymryd rhan mewn gweithgareddau er mwyn ail ymgysylltu â’r gymdeithas drwy chwarae … Rwy’n edrych ymlaen at gael gweld mwy o’n plant a’n pobl ifanc yn mwynhau eu haf yma yng Nghymru.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors