Archwiliwch
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes eisiau apwyntio aelodau newyd i’w phanel ymgynghorol.
Mae’r panel yn cyflawni rôl allweddol yn llywodraethiant swyddfa’r Comisiynydd, gan ddarparu cyngor annibynnol, cymorth, craffu a her i’r Comisiynydd a’i thîm. Bydd yr aelodau hefyd yn chwarae rhan gynghorol bwysig wrth sicrhau bod cynllun tair blynedd newydd y Comisiynydd, Gwella Bywyd i Blant yng Nghymru, yn cael ei gyflawni.
Mae’r Comisiynydd am benodi rhwng 12 a 18 o aelodau newydd sydd â gwybodaeth am faterion sy’n effeithio ar blant yng Nghymru, drwy broses gystadleuol agored. Bydd y penodiadau am gyfnod o dair blynedd, yn cychwyn ym mis Gorffennaf 2023.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Mehefin 2023.