Cym | Eng

News

Adroddiad Gobeithion i Gymru yn amlygu pwysigrwydd chwarae

Date

03.08.2023

Category

News

Archwiliwch

Mae arolwg o fwy nag 8,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi canfod ‘darparu mwy o gyfleoedd i chwarae’ ymhlith y prif awgrymiadau ar gyfer gwella eu bywydau.

Cynhaliwyd yr arolwg, Gobeithion i Gymru, yn hydref 2022 gan Gomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes. Ei nod oedd galluogi plant ac oedolion i rannu eu profiadau a’u gobeithion, ac i lunio blaenoriaethau’r comisiynydd ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr am eu barn ar bedair thema trwy gwestiynau ysgrifenedig yn ogystal â gweithgareddau grŵp bach:

  • Iechyd a hapusrwydd
  • Pryderon a phethau sy’n achosi consyrn
  • Bwlio a chamdriniaeth
  • Gwneud bywyd yn well.

Datgelodd canfyddiadau’r arolwg hefyd fod plant yn teimlo bod chwarae’n bwysig i’w hiechyd a’u hapusrwydd, ac mae oedolion yn credu bod angen gwell mynediad i weithgareddau a mannau agored ar blant.

Cymerodd cyfanswm o 8,830 o blant a phobl ifanc rhwng 3 a 18 oed, 876 o rieni a gofalwyr a 507 o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd ran yn yr arolwg. Mae’r canlyniadau wedi helpu i lywio strategaeth newydd y comisiynydd, Gwneud Bywyd yn Well i Blant yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors