Archwiliwch
Mae arolwg o fwy nag 8,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi canfod ‘darparu mwy o gyfleoedd i chwarae’ ymhlith y prif awgrymiadau ar gyfer gwella eu bywydau.
Cynhaliwyd yr arolwg, Gobeithion i Gymru, yn hydref 2022 gan Gomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes. Ei nod oedd galluogi plant ac oedolion i rannu eu profiadau a’u gobeithion, ac i lunio blaenoriaethau’r comisiynydd ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Gofynnwyd i’r cyfranogwyr am eu barn ar bedair thema trwy gwestiynau ysgrifenedig yn ogystal â gweithgareddau grŵp bach:
- Iechyd a hapusrwydd
- Pryderon a phethau sy’n achosi consyrn
- Bwlio a chamdriniaeth
- Gwneud bywyd yn well.
Datgelodd canfyddiadau’r arolwg hefyd fod plant yn teimlo bod chwarae’n bwysig i’w hiechyd a’u hapusrwydd, ac mae oedolion yn credu bod angen gwell mynediad i weithgareddau a mannau agored ar blant.
Cymerodd cyfanswm o 8,830 o blant a phobl ifanc rhwng 3 a 18 oed, 876 o rieni a gofalwyr a 507 o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd ran yn yr arolwg. Mae’r canlyniadau wedi helpu i lywio strategaeth newydd y comisiynydd, Gwneud Bywyd yn Well i Blant yng Nghymru.