Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru eisiau cymorth gan unigolion i ddatblygu a mireinio’r camau arfaethedig yn ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru mewn perthynas â’r sector gofal plant a chwarae.
Mae Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru yn nodi’r nodau a’r camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff statudol a sefydliadau trydydd sector wrth fynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig yng Nghymru. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn cael eu gosod yn erbyn y weledigaeth o fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.
Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp llywio i arwain y gwaith, yn ogystal â grwpiau gorchwyl a gorffen a grwpiau ffocws i ymgysylltu â rhieni a staff y sector gofal plant a chwarae. Mae gan Llywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig mewn cynnwys y rhai o gefndiroedd Du ac Asiaidd Lleiafrifoedd Ethnig yn y gwaith hwn.
I gymryd rhan, e-bostiwch erbyn 9 Medi.