Cym | Eng

News

25 mlynedd o Chwarae Cymru – cylchgrawn newydd

Date

04.10.2023

Category

News

Archwiliwch

Mae’r rhifyn newydd o Chwarae dros Gymru yn dathlu 25ain penblwydd Chwarae Cymru. Mae’n tynnu sylw at ddarnau diweddar o waith allweddol y mae Chwarae Cymru wedi bod yn rhan ohonynt. Mae’n ddathliad o’n gwaith cydweithredol wrth ymgyrchu dros hawl plant i chwarae.

Mae’r rhifyn 25 mlynedd o Chwarae Cymru yn cynnwys:

  • Golygyddol gwadd gan ein Cadeirydd cyntaf, Margaret Jervis
  • Dyma pam mae chwarae mor bwysig – ein ffilm newydd
  • Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru – ein hadroddiad ymchwil diweddaraf
  • Chwarae a lles: adolygiad llenyddiaeth
  • Prosiect Llysgenhadon Chwarae Cymunedol – y diweddariad terfynol
  • Adolygiad Gweinidogol o Chwarae – y diweddaraf a’r argymhellion
  • Chwarae’n parhau er gwaetha’r glaw – crynodeb o ddigwyddiadau Diwrnod Chwarae 2023
  • Cymru yng Nglasgow – derbynwyr bwrsari IPA Cymru Wales sy’n rhannu eu profiadau
  • Archarwyr yn Fforwm Gweithwyr Chwarae eleni!
  • Y diweddaraf am ddatblygu’r gweithlu – trosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae, chwarae dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru, dan y chwyddwydr…
  • Cymuned chwareus – prosiect aros a chwarae ysgol.

Lawrlwytho’r cylchgrawn

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors