Cym | Eng

Newyddion

Adolygiad 2024/25 o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith chwarae

Date

13.06.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Pleser yw cyhoeddi bod Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU wedi cael ei gymeradwyo i fwrw ymlaen ag adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer gwaith chwarae.

Mae Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn cynnwys Chwarae Cymru, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland, Play England a’r Playwork Foundation. Sefydlwyd y consortiwm i gynllunio’n strategol ar gyfer dyfodol mentrau datblygu’r gweithlu a mentrau sgiliau sector ar draws y pedair gwlad, gan gynnwys adolygiad o’r NOS yn y dyfodol.

Mae’r consortiwm wedi gwneud y gwaith paratoi a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:

  • Comisiynu ymarfer cwmpasu i ganfod y defnydd o’r safonau ar draws y DU, yn enwedig mewn perthynas â safonau galwedigaethol o fewn cymwysterau wedi’u rheoleiddio a’r cymwysterau sy’n ofynnol er mwyn gweithio mewn lleoliadau gwaith chwarae a reoleiddir
  • Hwyluso gweithdy ymgysylltu yn y National Playwork Conference yn 2023
  • Nodi adnoddau i ariannu’r adolygiad o’r NOS
  • Nodi Chwarae Cymru fel y sefydliad a fydd yn arwain yr adolygiad
  • Ymgysylltu â Chynghorau Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae (PETCs) y pedair gwlad
  • Cyflwyno achos busnes ar gyfer bwrw ymlaen â’r adolygiad i Banel Safonau a Fframwaith y DU ei gymeradwyo, sef y panel sy’n cymeradwyo holl weithgaredd datblygu’r NOS.

Dros y misoedd nesaf bydd y consortiwm yn recriwtio aelodau o grŵp ysgrifennu i adolygu a drafftio’r safonau newydd. Cefnogir yr adolygiad gan Grwpiau Cyfeirio Arbenigol, a fydd hefyd yn cael eu recriwtio’n agored i’r canlynol ac yn cynnwys cynrychiolwyr ohonynt: gwaith chwarae mynediad agored, gofal plant y tu allan i oriau ysgol, addysg bellach, addysg uwch, cyrff dyfarnu a sectorau cysylltiedig. Bydd y grwpiau hyn yn cefnogi ymgysylltu â’r sector ac yn llywio ymgynghoriad ehangach ar y safonau drafft sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Haf 2025.

Disgwylir i’r safonau galwedigaethol terfynol gael eu cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan Safonau’r DU yn ystod hydref 2025. Bydd y safonau terfynol hefyd ar gael yn Gymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth gweler y daflen wybodaeth ar yr adolygiad o’r NOS.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adolygiad, cysylltwch â ni.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors