Gwaith chwarae
Popeth am waith chwarae
Gellir disgrifio gwaith chwarae fel y gelfyddyd o weithio gyda phlant sy’n chwarae. Mae gwaith chwarae’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn sicrhau mai chwarae yw’r prif ffocws.
Yn yr adran hon cewch hyd i wybodaeth am:
- Cymwysterau a hyfforddiant
- Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae
- Darpariaeth gwaith chwarae cofrestredig
- Cymwysterau angenrheidiol
- Diogelu mewn darpariaeth chwarae
- Sicrhau ansawdd
- Datblygu’r gweithlu
Mae gwaith chwarae’n alwedigaeth a gydnabyddir sydd â chyfres o safonau proffesiynol, hyfforddiant, cymwysterau a gyrfaoedd.
Gall gwaith chwarae fod yn yrfa llawn amser neu’n rhywbeth sy’n cyd-redeg ag astudio neu waith arall. Deall sut i gefnogi chwarae plant yw’r dasg bwysicaf i weithiwr chwarae. Mae gwaith chwarae’n wahanol i lawer o broffesiynau eraill sy’n cynnwys gweithio gyda phlant ble gallai’r ffocws fod ar ddysgu, gweithgarwch corfforol neu’r celfyddydau, er enghraifft.
Mae rhinweddau pwysig i weithwyr chwarae feddu arnynt yn cynnwys:
- Credu mai’r plant yw’r arbenigwyr ar eu chwarae eu hunain
- Credu bod gan blant hawl i chwarae
- Ymrwymiad i gynnwys pob plentyn
- Parodrwydd i adael i’r plant gymryd yr awenau yn eu chwarae eu hunain
- Parodrwydd i gamu’n ôl pan fo angen er mwyn i’r plant allu chwarae yn eu ffordd eu hunain
- Ymwybyddiaeth bod cymryd risg yn rhan bwysig o chwarae ac mai rôl oedolyn yw taro cydbwysedd rhwng cymryd risg a buddiannau corfforol ac emosiynol chwarae
- Gwerthfawrogi gwerth arsylwi a sut y mae hyn yn helpu oedolion i ddeall plant a’u chwarae
- Y ddawn i adlewyrchu ar brofiadau da a drwg er mwyn gwella ymarfer gwaith chwarae
- Agwedd greadigol tuag at weithio gydag eraill
- Dealltwriaeth dda o sut i ddarparu adnoddau ar gyfer chwarae.
Cymwysterau a hyfforddiant gwaith chwarae ar gyfer y sectorau chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru
Cymwysterau gwaith chwarae sydd eu hangen i weithio gyda phlant mewn lleoliad ar ôl ysgol neu fynediad agored a reoleiddir
Gwybodaeth ac adnoddau am ddarpariaeth gwaith chwarae mynediad agored a darpariaeth gofal plant tu allan i oriau Ysgol
Sicrhau bod gan y gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae’r gefnogaeth sydd ei hangen i ddeall, gwerthfawrogi ac eirioli dros gyfleoedd i chwarae
Cyflwyniad i’n rhaglen sicrhau ansawdd newydd, Chwarae o Safon – y marc ansawdd gwaith chwarae
Y fframwaith proffesiynol a moesegol yn ogystal â diffiniad o’r hyn sy’n unigryw am waith chwarae
Gwybodaeth a gweithdrefnau amddiffyn plant ar gyfer gweithwyr chwarae a lleoliadau gwaith chwarae