Hawl i chwarae
Hwyl yn yr ardd
Pwnc
Hawl i chwarae
Dyddiad cyhoeddi
27.03.2023
Awdur: blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Charles Williams
Dyddiad: Ebrill 2020
Mae’r llyfr stori hwn wedi ei anelu at blant ysgol gynradd a’u rhieni. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer ymarferwyr i gefnogi eu gwaith gyda phlant a theuluoedd.
Mae’r stori yn dangos pwysigrwydd cymunedau cefnogol a goddefgar wrth helpu plant i gyflawni eu hawl i chwarae.
I ysgrifennu’r llyfr stori hwn, fe wnaethom weithio gyda storïwr, darlunydd, a phlant blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Charles Williams yng Nghaerllion. Gyda chefnogaeth y storïwr, creodd y plant stori chwareus, llawn dychymyg. Cafodd eu syniadau a’u lluniau eu rhannu gyda’n darlunydd, ddaeth â’u stori’n fyw yn y llyfr stori terfynol.
Mae’n ddilyniant annibynnol i Hwyl yn y dwnjwn.