Digwyddiad arall
Sesiwn datblygiad proffesiynol parhaus – The pedagogy of play
Dyddiad
20/01/2025
Amser
11.00am - 12.15pm
Pris (aelod)
Am ddim
Trefnydd
National Education Union
Lleoliad
Ar-lein
Sesiwn National CPD yw hon a drefnir gan y National Education Union ar bwysigrwydd a gwerth chwarae yn natblygiad plant ifanc. Mae’n canolbwyntio ar sut y gallwn helpu i ddarparu’r amodau gorau posibl i alluogi chwarae plant i ffynnu.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan Pete Moorhouse, ymgynghorydd creadigol blynyddoedd cynnar, ymchwilydd, awdur, ac addysgwr artist sydd wedi’i leoli yn y DU.
O’r cwrs hwn byddwch yn:
- darganfod beth sy’n cyfrif fel ‘chwarae’ a ‘gweithgareddau chwareus’
- dysgu sut mae chwarae’n cefnogi mynegiant creadigol plant
- dysgu sut y gall chwarae rhydd gefnogi pob maes dysgu
- archwilio rôl oedolion wrth gefnogi dysgu chwareus
- gwahaniaethu rhwng chwarae rhydd, chwarae dan arweiniad, ac addysgu didactig strwythuredig
Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at y rheini sy’n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar.