Digwyddiad arall
Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol 2025
Dyddiad
12/03/2025
Amser
6.45pm
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Ar-lein
Trefnydd
Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs
Lleoliad
Online
Mae’r Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs sy’n cydnabod ac yn dathlu rôl werthfawr gweithwyr chwarae, gwirfoddolwyr a rheolwyr wrth gefnogi plant i chwarae a theuluoedd i ffynnu.
Bydd enillwyr 10 categori yn cael eu cyhoeddi a’u gwobrwyo, a bydd y rhai sydd wedi ennill cymwysterau gwaith chwarae yn cael eu dathlu.
Mae’r digwyddiad rhithwir hwn yn addo bod yn noson llawn gwybodaeth, gan amrywiaeth o arweinwyr allweddol sy’n gysylltiedig â’r sector, dathlu a chyfleoedd i gysylltu – gan ffrydio’n fyw ledled Cymru.