Digwyddiad arall
Dyfarniad Cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae (cyfrwng Cymraeg)
Dyddiad
05/02/2025 - 09/04/2025
Amser
6.30pm - 8.30pm
Pris (aelod)
Ariennir yn llawn
Trefnydd
Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs
Lleoliad
Ar-lein
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â lefel 3 mewn gofal plant, gwaith ieuenctid, ysgol y goedwig neu gefnogi dysgu.
Y mae’n adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol ac yn eich helpu i ddeall egwyddorion, damcaniaethau a dulliau gwaith chwarae. Bydd y cwrs yma’n eich cymhwyso ar gyfer gwaith chwarae lefel 3 mewn unrhyw leoliad.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y cwrs naw wythnos hwn yn eich cymhwyso fel gweithiwr chwarae lefel 3 ar gyfer pob lleoliad. Fe’i cynhelir ar y dyddiadau canlynol, o 6.30pm tan 8.30pm:
- 5 Chwefror 2025
- 12 Chwefror 2025
- 19 Chwefror 2025
- 5 Mawrth 2025
- 12 Mawrth 2025
- 19 Mawrth 2025
- 26 Mawrth 2025
- 2 Ebrill 2025
- 9 Ebrill 2025
I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr:
- dal tystysgrif lefel 3 o fewn gofal plant
- cael yr hawl i weithio a byw yng Nghymru
- bod yn gyflogedig mewn lleoliad gofal plant neu chwarae
- fod dros 18 oed.