Cym | Eng

Digwyddiad Chwarae Cymru

Gweminar Trafod Digonolrwydd Chwarae – Digonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol

Dyddiad

01/04/2025

Amser

12.30pm - 2.00pm

Pris (aelod)

Am ddim

Trefnydd

Chwarae Cymru

Lleoliad

Ar-lein

Dyma weminar tri mewn cyfres o bedair yn edrych ar hyd a lled digonolrwydd chwarae. Nod y gweminar hwn yw rhannu enghreifftiau o ymatebion posibl i ddigonolrwydd/annigonolrwydd chwarae ar lefel awdurdod lleol a thrafod beth sy’n gwneud yr ymatebion hynny’n bosibl.

Beth yw hyn?

Fel rhan o ymchwil pellach i Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru a mabwysiadu a gweithredu’r cysyniad o ddigonolrwydd chwarae yng nghyd-destun ehangach y DU, mae Prifysgol Swydd Gaerloyw a Ludicology, gyda chefnogaeth Chwarae Cymru, yn falch o gyflwyno Trafod Digonolrwydd Chwarae, cyfres o bedair gweminar amser cinio, rhad ac am ddim yn edrych ar hyd a lled digonolrwydd chwarae.

Yn syml, mae digonolrwydd chwarae yn ymwneud â phlant yn cael digon o le, amser a chaniatâd i chwarae yn eu bywydau beunyddiol. Yng Nghymru a’r Alban, mae hwn yn bolisi cenedlaethol sy’n gosod dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol. Yn Lloegr, mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud hyn o’u gwirfodd.

Drwy gydol y rhaglen o weminarau, byddwn yn clywed gan bobl sydd wedi bod yn gweithio gyda digonolrwydd chwarae ar ffurf polisi ac egwyddor ganolog ar lefel genedlaethol, ar lefel leol ac ar lefel y gymdogaeth ac ar draws gwahanol gyd-destunau ym mywydau plant. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau ac i gael trafodaeth.

Mae’r gweminarau’n gweithio ar eu pen eu hunain ond byddai’n well mynychu’r pedwar – cofiwch archebu lle ar gyfer bob un o’r gweminarau yr hoffech eu mynychu.

Nodau bras y rhaglen yw:

  • trafod y cysyniad o ddigonolrwydd chwarae a pham ei fod yn bwysig
  • trafod y gwahanol fannau lle y gallai digonolrwydd chwarae fod yn berthnasol
  • trafod beth sy’n effeithio ar ddigonolrwydd chwarae a gallu plant i chwarae ar draws gwahanol fannau
  • hyrwyddo egwyddorion
    • digonolrwydd chwarae fel egwyddor ganolog
    • digonolrwydd chwarae fel methodoleg a phroses
    • gweithio ar draws proffesiynau
    • ymchwil moesegol ac ymatebion yn seiliedig ar dystiolaeth
  • trafod offer, methodolegau a fframweithiau cysyniadol llwyddiannus
  • rhannu enghreifftiau o ymatebion polisi posibl i ddigonolrwydd chwarae ar lefel genedlaethol, lefel leol a lefel cymdogaeth
  • trafodo beth sy’n gwneud digonolrwydd chwarae yn bosibl.

At bwy mae’r rhaglen wedi’i hanelu?

Unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi hawl plant i chwarae, gan gynnwys llunwyr polisïau, ymgyrchwyr, cyrff anllywodraethol, aelodau etholedig a swyddogion y llywodraeth ar lefel genedlaethol a lleol. Rydyn yn credu bod rhywbeth o ddiddordeb i’r rhai sydd wedi bod yn gweithio yn y maes digonolrwydd chwarae ers blynyddoedd a’r rhai sy’n newydd i’r syniad. Rhoddir blaenoriaeth i bobl o’r DU, ond efallai y bydd rhai lleoedd ar gael ar gyfer pobl o’r tu allan i’r DU.

Lawrlwythwch daflen y gweminar

Archebwch eich lle nawr

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.
Ydych chi wedi darllen a deall y polisi archebu a chanslo, gan gynnwys yr amodau a thelerau?
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors