Cym | Eng

Digwyddiad arall

Grŵp C: Diogelu ar gyfer y Person Dynodedig ac Uwch Ymarferwyr

Dyddiad

24/09/2025 a 25/09/2025, 08/12/2025 a 09/12/2025, 2402/2026 a 25/02/2026, 18/03/2026 a 19/03/2026

Pris (aelod)

£280

Trefnydd

Plant yng Nghymru

Lleoliad

Ar-lein, Caerdydd a Bae Colwyn

Mae gan yr Arweinydd Diogelu Dynodedig rôl hanfodol i sicrhau bod mesurau diogelu ar waith a bod camau gweithredu effeithiol yn cael eu cymryd pan fydd pryderon am blentyn yn codi. Mae’n berthnasol i leoliadau amrywiol, gan gynnwys ysgolion, gofal plant, a gwasanaethau gwirfoddol a phreifat sy’n darparu gweithgareddau, dysgu a chymorth i blant a theuluoedd.

Nodau’r cwrs deuddydd hwn yw sicrhau bod mynychwyr yn:

  • deall pwrpas, pwysigrwydd a rôl yr ‘Arweinydd Dynodedig’ a beth mae’n ei olygu yn eich lleoliad
  • cael gwybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol ar ddiogelu plant a phobl ifanc yng nghyd-destun Cymru a’r DU
  • archwilio rolau partneriaid diogelu yn y cyd-destun amlasiantaethol
  • deall y system amddiffyn plant statudol a disgwyliadau
  • archwilio’r cysyniad ‘cam-drin ymddiriedaeth’ a bod yn effro i droseddau posibl yn y sefydliad
  • deall sut mae gwerthoedd a chredoau yn effeithio ar ymatebion i ddiogelu
  • deall effaith emosiynol y gwaith
  • nodi mesurau diogelu hanfodol sydd eu hangen
  • deall asesu ac adrodd am bryderon i’r gwasanaethau cymdeithasol
  • nodi rhwystrau ac ystyried atebion i rannu gwybodaeth
  • deall cadw cofnodion a chyfrinachedd da
  • gwybod am amrywiaeth a gwendidau ychwanegol i rai plant
  • cynnwys staff a gwirfoddolwyr yn eu cyfrifoldebau diogelu
  • cynllunio gweithredu ar gyfer datblygu rôl yr Arweinydd Diogelu Dynodedig.

Mae’r dyddiadau hyfforddii canlynol ar gael:

  • 24 a 25 Medi 2025, 9:30am – 4:30pm – ar-lein
  • 8 a 9 Rhagfyr 2025, 9:30am – 4:30pm – ar-lein
  • 24 a 25 Chwefror 2026, 10:00am – 4:00pm – yn bersonol, Caerdydd
  • 18 a 19 Mawrth 2026, 10:00am – 4:00pm – yn bersonol, Bae Colwyn

Mae’r cwrs wedi’i anelu at:

Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr sy’n rhan o Grŵp C ac sy’n ymarfer o fewn rôl Arweinydd Diogelu Penodedig fel y disgrifir yn y Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors