Cym | Eng

Digwyddiad arall

Cymru i bob blentyn – ymgysylltu effeithiol ac ystyrlon â phlant anabl a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol

Dyddiad

07/03/2025

Amser

9:00am - 2:45pm

Pris (aelod)

Am ddim

Trefnydd

Comisiynydd Plant Cymru

Lleoliad

Yr Optic, Llanelwy

Mae dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae hwn yn cynnwys y ddyletswydd ar awdurdodau lleol ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i hyrwyddo a hwyluso cyfranogiad plant mewn penderfyniadau a allai effeithio arnynt. Mae Pennod 5 Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 hefyd yn esbonio sut mae angen i awdurdodau lleol a chyrff y GIG roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Yn y digwyddiad hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • cymryd rhan mewn gweithdai i helpu gwella gwaith ymgysylltu gyda phlant anabl a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol
  • dysgu am y fframwaith hawliau plant a sut y gall y fframwaith eich helpu i gyflawni eich dyletswyddau statudol
  • dweud wrth y Comisiynydd amdanoch chi a’ch gwaith, a sut y gall y Comisiynydd eich cefnogi.

Bydd cyfranogwyr yn clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am yr hyn sy’n gweithio, a gan gyrff cyhoeddus sydd wedi cynnwys plant a phobl ifanc yn llwyddiannus wrth wneud penderfyniadau.

Pwy ddylai fynychu?

Nid yw’r diwrnod hwn wedi’i fwriadu ar gyfer uwch arweinwyr, ond y rhai sy’n fwy tebygol o weithio’n uniongyrchol gyda phlant.

Cofrestrwch eich diddordeb i fynychu’r digwyddiad hwn

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors