Digwyddiad arall
Cynhadledd Flynyddol Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREYN)
Dyddiad
21/05/2025
Amser
10:30am - 3:00pm
Pris (aelod)
Free
Trefnydd
Rwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY)
Lleoliad
sbarc|spark, Stryd Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Mae’r cynhadledd, o’r enw Hawliau’r Blynyddoedd Cynnar ar Waith: Ymarfer sy’n Seiliedig ar Ymchwil, yn cael ei rhedeg gan Rwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY). Mae’n anelu at arddangos a thynnu sylw at y gwaith sy’n digwydd o ran hawliau’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymarfer sy’n seiliedig ar ymchwil.
Cynhelir Rhwydwaith CREY gan Plant yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe. Yn ystod y gynhadledd bydd cyfranogwyr yn clywed gan ymarferwyr yn uniongyrchol am sut maen nhw’n gweithio i gefnogi’r plant ifancaf i gael defnyddio’u hawliau, trwy ystod o ddulliau creadigol.
Mae’r gynhadledd hon yn adeiladu ar gynhadledd 2023 ‘Gwrando ar ein Plant Ifancaf – Safbwyntiau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig’, lle bu nifer o siaradwyr ysbrydoledig a gwybodus o bob rhan o’r DU yn trafod rannu arfer gorau a gwaith cyfredol ynghylch gwrando ar leisiau plant ifanc.
Mae’r gynhadledd wedi’i hanelu at ystod o weithwyr proffesiynol yn unol ag aelodaeth Rhwydwaith CREY a bydd yn cynnwys academyddion, ymarferwyr, llunwyr polisi a’r trydydd sector.
Darperir cinio a lluniaeth ysgafn.