Mae’r adran hon yn manylu ar ein polisïau sefydliadol yn Chwarae Cymru.
Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i sicrhau preifatrwydd pawb sy’n defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaethau. Darllenwch ein Polisi Diogelu Data i weld sut byddwn yn defnyddio a gwarchod y wybodaeth y byddwch yn ei darparu.
Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i warchod eich gwybodaeth bersonol:
Mae Chwarae Cymru’n credu bod gan bawb hawl i gael eu trin â pharch ac urddas. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu pob un o’n gwasanaethau mewn modd teg a chyfiawn.
Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg, diduedd a gwrthrychol ac amgylchedd gwaith sy’n rhydd rhag aflonyddu ac erledigaeth.
Mae Chwarae Cymru’n ceisio sicrhau ein bod yn rhedeg yr elusen mewn modd cynaliadwy.
Mae Chwarae Cymru’n anelu i ddarparu gwasanaethau o safon i bob un o’n defnyddwyr. Ond, os ydych yn anfodlon gyda’r modd y cawsoch eich trin neu gydag ansawdd ein gwasanaeth, cofiwch ddweud wrthym.
Mae Chwarae Cymru’n anelu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy’n dymuno cynnal eu busnes â ni trwy gyfrwng y Gymraeg, boed yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae pob un o’n llythyrau cyffredinol a’n cyhoeddiadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.