Cym | Eng

Llyfrgell adnoddau

Creu mannau chwarae hygyrch

Pwnc

Pecyn cymorth

Dyddiad cyhoeddi

27.03.2023

Darllen yr adnodd

Creu mannau chwarae hygyrch

Awdur: Chwarae Cymru ac Alison John & Associates
Dyddiad: Tachwedd 2017

Bwriedir i’r pecyn cymorth hwn gynorthwyo’r bobl hynny sy’n rhan o ddatblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, gwleidyddion (ar bob lefel), cynllunwyr mannau agored, cymdeithasau tai a rheolwyr parciau a meysydd chwarae.

Mae’r pecyn cymorth hefyd yn darparu arweiniad i awdurdodau lleol a’u partneriaid ar gyflawni dyletswyddau digonolrwydd chwarae statudol wrth sicrhau bod eu hardal yn darparu digon o gyfleoedd i chwarae.

Bydd hefyd yn helpu gwneuthurwyr offer meysydd chwarae, rhieni ac aelodau o’r gymuned i ddeall y cyfleoedd a’r heriau sy’n rhan o greu mannau chwarae hygyrch.

Mae’n darparu gwybodaeth glir a chryno fydd yn:

  • arwain at greu mannau chwarae ble gall pob person chwarae ochr yn ochr â’u ffrindiau a’u teulu
  • helpu pobl i ddeall a datrys materion o bryder
  • darparu arfau a thempledi cam-wrth-gam, ymarferol i’w defnyddio i chwalu’r rhwystrau y gall plant anabl a’u teuluoedd eu profi wrth gael mynediad i fan chwarae.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn canolbwyntio ar fannau sydd wedi eu dylunio’n benodol ar gyfer chwarae, fel meysydd chwarae ac ardaloedd chwarae. Fodd bynnag, gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer mannau cymunedol a chyhoeddus eraill, os ydynt wedi eu creu’n benodol ar gyfer chwarae plant ai peidio.

Datblygwyd y pecyn cymorth hwn gan Chwarae Cymru ac Alison John and Associates yn dilyn nifer cynyddol o ymholiadau oddi wrth rieni a darparwyr ynghylch darparu cyfleoedd chwarae hygyrch ar gyfer plant anabl yn eu cymunedau. Cynghorodd grŵp ffocws bychan o rieni, rheolwyr ardaloedd chwarae awdurdodau lleol, swyddogion datblygu chwarae a chynrychiolwyr o fudiadau plant ar gynnwys y pecyn cymorth.

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Gweld yr holl cyhoeddiadau

Pecyn cymorth | 27.03.2023

Datblygu a rheoli mannau chwarae Datblygu a rheoli mannau chwarae

Mae’r pecyn hwn wedi ei ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu man chwarae cymunedol.

Gweld

Pecyn cymorth | 27.03.2023

Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant

Pecyn i gefnogi pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd.

Gweld

Pecyn cymorth | 27.03.2023

Datblygu a rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Datblygu a rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Canllaw ar gyfer unrhyw un sy’n gyfrifol am reoli neu ddatblygu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd neu rai sy’n bodoli eisoes.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors