Cym | Eng

Cyllid

Ariannu: Grantiau Bach Gwyrdd

Date

10.08.2026

Category

Cyllid

Ariannu: Grantiau Bach Gwyrdd

Archwiliwch

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi lansio rhaglen newydd, Grantiau Bach Gwyrdd, sy’n cynnig grantiau rhwng £300 a £2,000 i grwpiau cymunedol gymryd camau ymarferol er lles yr amgylchedd.

Mae’r rhaglen ar agor i geisiadau gan unrhyw grŵp cymunedol sydd a syniad ymarferol – nid sefydliadau amgylcheddol yn unig – yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gellir defnyddio’r grant i:

  • gychwyn gweithgaredd newydd neu barhau gydag un sy’n bodoli’n barod (os yw’n cwrdd â blaenoriaethau)
  • helpu’ch sefydliad neu gymuned (neu’r ddau) i addasu i heriau newydd
  • cynnal digwyddiadau un tro sydd â buddiannau clir i’r amgylchedd.

Gall hyn gynnwys gwella man gwyrdd lleol, gwarchod natur, cysylltu pobl â’r amgylchedd, neu helpu i greu cymuned sy’n iachach ac yn fwy gwyrdd.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer y gyfer y rhaglen hon.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors