Digwyddiad arall
Cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant 2026
Dyddiad
23 Medi 2026
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
Gofal Cymdeithasol Cymru
Lleoliad
Stadiwm Swansea.com, Abertawe
Ymunwch â Gofal Cymdeithasol Cymru i glywed gan arbenigwyr blynyddoedd cynnar, yn ogystal ag ymarferwyr o leoliadau fydd yn rhannu sut mae addasu’r theori i ymarfer dydd i ddydd. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer dysgu proffesiynol, myfyrio a rhwydweithio.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys:
- Ymarfer gwrth-wahaniaethu – archwilio sut y gellir gwreiddio ymarfer gwrth-wahaniaethu a gwrth-hiliaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys gwrando ar brofiadau bywyd, ymarfer myfyriol, gweithio mewn partneriaeth a’r heriau o greu newid ystyrlon a chynaliadwy
- Arweinyddiaeth a rheolaeth – edrych ar beth sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol yn y sector a sut y caiff ei ddangos yn ymarferol, gan gynnwys yr effaith gadarnhaol ar gadw staff a’u lles
- Cyflwyniad i fframwaith NYTH – cefnogi iechyd meddwl a lles babanod, plant a phobl ifanc
- Lles – gwerthfawrogi a grymuso staff a phlant, a chreu amgylcheddau cadarnhaol lle mae pawb yn teimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn saff.
Mae’r gynhadledd am ddim i fynychu ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.