Archwiliwch
Mae Tîm Ymchwil Phlant a Theuluoedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil ansoddol sy’n archwilio safbwyntiau a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn ymwneud â gwaith chwarae a gofal plant. Canolbwyntia un adroddiad ar brofiadau pobl sy’n gweithio yn y sector gwaith chwarae a gofal plant, ac archwilia’r llall ar safbwyntiau’r rhieni sy’n defnyddio gwasanaethau gwaith chwarae a gofal plant.
Ymchwil ansoddol ar brofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o weithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ymchwil ansoddol sy’n archwilio profiadau pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru, yn gwirfoddoli ynddo, neu’n hyfforddi i ymuno â’r sector. Comisiynwyd yr ymchwil gan Lywodraeth Cymru i lywio gweithredu camau gofal plant yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP), yn enwedig mewn perthynas â datblygu’r gweithlu a chynhwysiant.
Nod yr ymchwil oedd archwilio:
- cymhellion dros ymuno â’r sector
- profiadau o gynhwysiant, perthyn a chymorth
- rhwystrau i fynediad, cadw a dilyniant
- profiadau o hiliaeth neu ragfarn
- barn ar hyfforddiant a datblygu gyrfa
- beth fyddai’n gwneud y sector yn fwy cynhwysol a chefnogol.
Cynhaliwyd 13 o gyfweliadau lled-strwythuredig gydag unigolion a oedd yn nodi eu hunain fel rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys saith unigolyn sy’n gweithio mewn rolau gofal plant a gwaith chwarae ar hyn o bryd, ynghyd â phedwar gwirfoddolwr a dau hyfforddai sy’n bwriadu ymuno â’r sector.
Yn yr adroddiad, noda’r ymchwilwyr: ‘Gan mai astudiaeth ansoddol yn seiliedig ar sampl fach ydyw, nid yw’r canfyddiadau’n gynrychioliadol yn ystadegol. Maent yn rhoi cipolwg manwl ar brofiad bywyd ac yn tynnu sylw at themâu a all lywio polisi ac ymarfer.’
Gan ychwanegu: ‘Bydd parhau i ymgysylltu â phrofiad bywyd yn bwysig i fonitro cynnydd ac i gefnogi datblygiad gweithlu gofal plant a gwaith chwarae mwy cynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru.’
Safbwyntiau a phrofiadau teuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru: Astudiaeth ansoddol arddefnydd gwasanaethau gofal plant a gwaith chwarae
Mae’r astudiaeth hon yn archwilio sut mae profiadau bywyd, dylanwadau diwylliannol, a dewisiadau teuluol yn llunio’r defnydd o wasanaethau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ChDGPC) ymhlith teuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae hefyd yn anelu i archwilio’r heriau y mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ddarpariaeth, a’r ffactorau sy’n annog y nifer sy’n cael y gwasanaethau hyn, gyda sylw arbennig i sut mae’r deinameg hon yn effeithio ar deuluoedd ethnig leiafrifol.
Cymerodd ugain o rieni o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghaerdydd, Gwynedd a Rhondda Cynon Taf ran yn yr ymchwil, a phob un â phlant hyd at wyth oed. O ystyried maint bychan yr astudiaeth hon, a’r amser cyfyngedig a dreuliwyd gyda theuluoedd, dim ond cipolwg dangosol y mae’r canfyddiadau’n ei roi.
Wrth ddwyn y casgliadau ynghyd, noda’r ymchwilwyr: ‘Roedd rhieni’n gwerthfawrogi gofal plant am ei rôl wrth cymdeithasoli plant, parodrwydd ar gyfer mynd i’r ysgol, a datblygiad emosiynol. Roedd gofal plant hefyd yn darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer lles rhieni, cyflogaeth, ac integreiddio cymunedol. Mae sicrhau darpariaeth gofal plant hygyrch, sy’n sensitif yn ddiwylliannol, ac yn fforddiadwy yn hanfodol ar gyfer gwella canlyniadau i deuluoedd ethnig ledled Cymru.’