Cym | Eng

Newyddion

Green Space Index 2025 Fields in Trust

Date

23.01.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae ymchwil gan Fields in Trust (FIT) wedi datgelu nad oes gan un o bob tri phlentyn o dan naw oed ym Mhrydain faes chwarae ger eu cartref. Mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos nad yw dros 411,000 o bobl yng Nghymru yn byw o fewn taith gerdded 10 munud i fan gwyrdd.

Mae’r canlyniadau’n rhan o ‘Green Space Index’ FIT – baromedr blynyddol o ddarpariaeth parciau a mannau gwyrdd sy’n hygyrch i’r cyhoedd ledled Prydain.

Wrth gyhoeddi’r canfyddiadau, dywedodd FIT:

‘Mae’r canfyddiadau’n pwyntio at duedd sy’n peri pryder: mae amddifadedd yn cynyddu’r risg o golli mannau gwyrdd a hamdden sydd mor hanfodol i iechyd cymunedol, cydlyniant cymdeithasol a gwydnwch amgylcheddol. Rhaid rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwn mewn polisïau cynllunio wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pob cymuned yn cael mynediad cyfartal i fanteision chwaraeon, chwarae a natur.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors