Cym | Eng

Newyddion

Paratoi ar gyfer SASS 2026

Date

23.01.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ddarparwyr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru gwblhau’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) ar-lein yn flynyddol.

Mae hefyd yn gyfle i ddarparwyr ddangos eu gwaith rhagorol ac mae’n helpu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddeall darpariaeth gofal plant ledled Cymru.

Bydd SASS eleni yn agor ar 13 Chwefror a bydd rhaid ei gwblhau erbyn 27 Mawrth 2026. I’ch helpu i baratoi, mewngofnodwch i’ch cyfrif AGC ar-lein i sicrhau fod eich manylion yn gyfredol. Bydd hyn yn eich galluogi i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn llawer cyflymach.

Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein ar hyn o bryd, cysylltwch â AGC am gymorth.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors