Swyddi Sector
Uwch Weithiwr Chwarae
Mudiad: Plasnewydd Out of School Club
Lleoliad: Y Rhath, Caerdydd
Oriau: 16 awr yr wythnos (yn ystod tymor yr ysgol)
Cyflog: £12.60 yr awr
Dyddiad cau: 2 Chwefror 2026
Mae Plasnewydd Out of School Club yn recriwtio Uwch Weithiwr Chwarae Chwarae, i weithio o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, i helpu i redeg clwb ar ôl ysgol sydd wedi ei leoli mewn ysgol, ac i ddirprwyo o bryd i’w gilydd yn absenoldeb rheolwr y clwb.
I weithio fel rhan o dîm bychan yn hwyluso cyfleoedd i chwarae ar gyfer plant pedair i unarddeg mlwydd oed. Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys siopa yn wythnosol am fyrbrydau iachus, cynorthwyo gyda chadw cofnodion cywir a threfnu gweithgareddau.
I wneud cais, ebostiwch eich CV a datganiad person at Plasnewydd Out of School Club gan amlinellu eich profiad a chymwysterau gwaith chwarae a gofal plant. Hefyd, cofiwch gynnwys gwybodaeth am y sgiliau a’r rhinweddau y byddech chi’n eu cyfrannu at y rôl Uwch Weithiwr Chwarae.