Archwiliwch
Mae’r Morrisons Foundation yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i elusennau cofrestredig sy’n darparu prosiectau sy’n gweithio o fewn un o’r amcanion canlynol:
- Mynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd cymdeithasol
- Gwella mannau, cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol
- Gwella iechyd a lles.
Rhaid i geisiadau ariannu prosiect penodol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.
Mae’n well gan y Morrisons Foundation geisiadau:
- gan elusennau llai gydag incwm o lai na £1m
- ar gyfer prosiectau sy’n creu etifeddiaeth neu effaith barhaol
- ar gyfer prosiectau sydd o fudd i nifer fawr o bobl.
Derbynnir ceisiadau yn barhaus – nid oes dyddiad cau.