Archwiliwch
Mae’r alwad am grynodebau ar gyfer Cynhadledd Fyd-eang 2026 yr International Play Association (IPA) nawr ar agor. Cynhelir y gynhadledd yn Ōtautahi Christchurch, Aotearoa Seland Newydd rhwng 2 a 5 Tachwedd 2026.
Mae’r trefnwyr yn gwahodd cyfranogwyr i rannu ymchwil, ymarfer, straeon a syniadau sy’n dathlu arloesedd mewn chwarae. Croesewir cyfraniadau gan ymchwilwyr, ymarferwyr, perchnogion gwasanaethau, rheolwyr, dylunwyr, cynllunwyr, a llunwyr polisi sy’n gweithio mewn cymunedau, llywodraeth leol a chanolog, academia a sefydliadau elusennol neu wirfoddol, ar y themâu canlynol:
- Kotahitanga – Cynhwysiant mewn Chwarae
- Tākaro Māori – Chwarae Cynhenid
- Auahatia – Arloesi ar gyfer Chwarae
- Ngā mōtika o te tamaiti/ngā tamariki – Hawliau’r Plentyn/Plant.
Gall cyflwyniadau fod mewn amrywiaeth o fformatau i weddu i wahanol ffyrdd o rannu ac ymgysylltu:
- Cyflwyniad llafar
- Trafodaeth banel
- Gweithdy
- Ffilm
- Poster electronig
- Egwyl chwarae
- Sgwrs sydyn.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau: 17 Chwefror 2026