Archwiliwch
Yn ein hadroddiad ymchwil newydd, mae 7,924 o blant ac arddegwyr yn dweud wrthym pa mor fodlon ydyn nhw gyda eu cyfleoedd i chwarae yn eu hardal leol.
Wedi ei ysgrifennu gan Dr David Dallimore, ymgynghorydd ymchwil sy’n arbenigo mewn chwarae a gofal plant y blynyddoedd cynnar, mae Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025 yn cyflwyno darlun o fodlonrwydd chwarae plant.
Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i leisiau plant ac arddegwyr gael eu clywed, gan danlinellu:
- pwysigrwydd chwarae yn eu bywydau
- yr hyn sy’n dda a’r hyn sydd ddim cystal am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol
- pa mor fodlon ydyn nhw gyda phryd, sut a ble y gallant chwarae.
I bwysleisio lleisiau plant drwy’r adroddiad, mae’n cynnwys sylwadau craff gan blant ac arddegwyr o bob oed o bob cwr o Gymru.
Mae’r mwyafrif o blant yn gwerthfawrogi a mwynhau eu cyfleoedd i chwarae, ond mae ambell grŵp o blant ac arddegwyr yn sefyll allan yn eu hadrodd am lefel bodlonrwydd isel gyda’u cyfleoedd chwarae, gan gynnwys merched, plant anabl a phlant ethnig lleiafrifol.
Mae plant yn dweud, ran amlaf o lawer, bod chwarae’n hanfodol ar gyfer eu hapusrwydd, eu datblygiad a’u bywyd cymdeithasol. Mae’r neges gyson gan blant yn glir: maen nhw eisiau mwy o amser, mannau gwell, a mwy o ryddid i chwarae.
Crëwyd yr adroddiad yn defnyddio data o ganlyniadau Arolygon Bodlonrwydd Chwarae awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r arolwg i ymgynghori â phlant ac arddegwyr fel rhan o’u Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. Er bod pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i sicrhau yr ymgynghorir â phlant fel rhan o’u Hasesiadau o Ddigonolrwydd Chwarae (PSA), llwyddodd 16 i ddarparu data dienw ar ffurf y gellid ei ddefnyddio ar gyfer yr adroddiad hwn.
Mae’r adroddiad wedi ei gefnogi gan ddadansoddiad ansoddol a gynhaliwyd gan y Dr Michaela James a’r Dr Hope Jones o Brifysgol Abertawe.
Diolch yn fawr i’n holl bartneriaid mewn awdurdodau lleol weithiodd gyda ni i gynllunio, casglu, coladu a rhannu’r data. Mae cael arolwg safonedig sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yn golygu y gallwn gofnodi lleisiau plant ac arddegwyr yn ddibynadwy, a hynny o bob cwr o’r wlad.
Dywed Chwarae Cymru:
‘Rydym yn falch iawn o gyhoeddi barn bron i 8,000 o blant ac arddegwyr sydd wedi dweud wrthym am eu cyfleoedd i chwarae yn eu hardal leol. Mae’n bwysig cydnabod bod llawer o ffactorau’n dylanwadu ar gyfleoedd i chwarae. Er na ellir adnabod y rhain trwy ddata arolwg yn unig, mae’r Arolwg Bodlonrwydd Chwarae yn darparu gwybodaeth werthfawr am ble y gall ymchwil pellach ar lefel leol ganolbwyntio.
Tra ein bod yn falch mai’r darlun a gyflwynwyd gan blant ac arddegwyr ar draws Cymru yw eu bod yn cael caniatâd i fynd allan, yn teimlo’n ddiogel, ac yn gallu chwarae yn y mannau ble maent am chwarae a’u bod, ar y cyfan, yn fodlon gyda’u cyfleoedd i chwarae, mae dal lle i wella. Mae ambell grŵp o blant ac arddegwyr yn sefyll allan yn eu hadrodd am lefel bodlonrwydd isel gyda’u cyfleoedd i chwarae. Byddwn yn parhau i ymgyrchu am fwy o gyfleoedd a gwell cyfleoedd i chwarae ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.’
Lawrlwytho Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025