Archwiliwch
Mae Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden AS, wedi cyhoeddi cyhoeddiad fersiynau plant a phobl ifanc o Adroddiad Cynnydd ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.
Cyhoeddwyd y fersiynau i blant a phobl ifanc i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Chwarae (11 Mehefin). Mae animeiddiad esboniadol yn cyd-fynd â’r adroddiadau.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS:
Thema Diwrnod Chwarae Rhyngwladol eleni ar 11 Mehefin yw “Dewis chwarae – bob dydd”. Drwy ein deddfwriaeth ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae, sydd ymhlith y mwyaf blaengar yn y byd, a’r camau rydym yn eu cymryd yn dilyn ein Hadolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, rydym yn dangos y gwerth rydym yn ei roi ar bwysigrwydd chwarae ym mywydau ein plant a’n pobl ifanc.
Byddwn yn croesawu Asesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2025 awdurdodau lleol ddiwedd y mis hwn, ac edrychwn ymlaen at glywed barn plant am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt chwarae.