Archwiliwch
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn cynnig grantiau i brosiectau lleol a rhanbarthol sydd yn hyrwyddo’r celfyddydau, cymuned, yr amgylchedd a chwaraeon.
Mae’r cynllun rhanbarthol sy’n cynnig £10,000 ar agor i brosiectau rhanbarthol lle mae gan y sefydliadau fel arfer gylch gwaith i wasanaethu rhanbarth o Gymru neu ardal awdurdod lleol. Mae hyn yn golygu mai nhw yw’r unig sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth hwnnw o fewn y fwrdeistref sirol. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus yn y categori hwn ddangos bod eu prosiect yn rhanbarthol neu’n cwmpasu’r awdurdod lleol cyfan.
Mae’r cynllun grant lleol sy’n cynnig £5,000 ar agor i brosiectau lleol lle mae gan y sefydliadau fel arfer gylch gwaith i wasanaethu eu cymuned neu dref leol. Os oes mwy nag un sefydliad yn darparu gwasanaeth tebyg yn yr awdurdod lleol, dylid ystyried y grŵp yn lleol (h.y. os oes mwy nag un clwb tenis yn yr awdurdod lleol, yna bydd y clwb tenis yn cael ei ystyried yn sefydliad lleol).
Gofynnir i ymgeiswyr nodi bod rhaid dosbarthu cynigion yn ôl cylch gwaith daearyddol y sefydliad. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw penderfynu a phrofi eu dosbarthiad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 19 Medi 2025